Ydych chi’n barod i wynebu ‘Her yr Hinsawdd’? Rhan 2
Er bod llawer o bobl yn teimlo nad oes dim byd y gallan nhw ei wneud ac yn teimlo’n ansicr ynghylch sut i fynd i’r afael â’r materion byd-eang ar hyn o bryd, fel addysgwyr, mae’n rhaid i ni anelu at roi meddylfryd cadarnhaol i blant.
Children gardening
Edrychwch ar Ran 1A: Beth yw ‘Her yr Hinsawdd? yma neu Ran 1B: Her yr Hinsawdd a’r Cwricwlwm i Gymru yma
Sut i addysgu Her yr Hinsawdd
Efallai bydd plant yn credu nad yw oedolion yn poeni digon am y Ddaear y byddan nhw’n etifeddu’r cyfrifoldeb dros ofalu amdani cyn hir. Canlyniad posibl hyn yw teimladau llethol o dristwch ac o ddiffyg gobaith: weithiau cyfeirir at hyn fel Eco-orbryder eco (Eco-anxiety), ond ffordd fwy cadarnhaol o fynegi hyn yw Eco-empathi.
Ein gwaith ni erioed fel athrawon fu creu amgylchedd diogel sy’n meithrin plant a lle gallan nhw ffynnu. Nawr, mae dimensiwn ychwanegol: sicrhau bod gan blant ddiogelwch seicolegol, optimistiaeth a hyder i siarad yn onest am yr heriau sy’n ein hwynebu ni, a sut gallan nhw wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd. Er mwyn lleihau eco-orbryder, negeseuon allweddol cynghrair Climate Psychology Alliance yw ein bod ni’n gwneud y canlynol:
- Rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i blant (yn ôl eu hoedran) fel y gallan nhw ddechrau deall beth yw’r problemau byd-eang.
- Rhoi amser a lle i’r plant brosesu gwybodaeth newydd a chydnabod eu teimladau. Bydd hyn yn helpu i feithrin eu hempathi drwy ddeallusrwydd emosiynol.
- Rhoi cyfleoedd i blant allu gwneud rhywbeth drwy gamau gweithredu cadarnhaol bychain.
Bydd defnyddio gweithgareddau Her yr Hinsawdd yn galluogi sgyrsiau pwysig i ddigwydd fel bod plant yn gallu mynegi eu syniadau a’u teimladau. Mae gwybodaeth ddibynadwy, ddiweddar i gefnogi’r trafodaethau hyn ym mhob adran ‘gwyddoniaeth gefndir’/background science. Mae gan bob gweithgaredd Her yr Hinsawdd adran ychwanegol o’r enw Cam gweithredu cadarnhaol, sy’n tynnu sylw at syniadau syml o ran y camau gweithredu perthnasol y gall y plant eu gwneud er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r blaned. Mae darllen yr adran hon cyn y wers yn syniad da fel bod modd paratoi unrhyw adnoddau.
Mae sawl math gwahanol o Gamau gweithredu cadarnhaol:
Cam gweithredu cadarnhaol 1 – Byddwch yn naturiaethwr:
Bydd cymryd camau bach i wella safle’r ysgol ar gyfer byd natur yn rhan o Gwricwlwm Gwyddoniaeth Lloegr yn 2023 a bydd y plant yn gallu llwytho eu data i Barc Natur Addysg Cenedlaethol rhithwir. Mae’r manteision i’r plant yn cynnwys dysgu sgiliau ymarferol a gweithio y tu allan. Gyda’i gilydd, gallai eu prosiectau fod yn arwyddocaol i fywyd gwyllt Prydain.
I fod yn naturiaethwr, gallai’r plant greu:
Gardd neu Gardd fwyd |
||
Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Justin Smith drwy Canva
Cam gweithredu cadarnhaol 2 – Lledaenu’r neges:
Mae materion amgylcheddol yn gallu rhoi cyd-destunau bywyd go iawn mewn gwersi Cymraeg/Saesneg lle mae plant yn dysgu cyfathrebu drwy berswadio. Mae’n bosibl datblygu sgiliau siarad a gwrando a dylai cyd-destun ‘perthnasol ac ystyrlon’ (Adroddiad Ofsted pwynt 138) ysbrydoli gwaith ysgrifennu o’r ansawdd orau. Mae angen sensitifrwydd a chydbwysedd i fynd i’r afael â chymhlethdod materion amgylcheddol. Fel yr esboniwyd mewn canllawiau diweddar gan Lywodraeth y DU, dydy’r dystiolaeth wyddonol am newid yn yr hinsawdd ddim yn wleidyddol. Fodd bynnag, wrth ystyried beth sydd angen ei wneud, dylai plant gael eu haddysgu i fod yn deg ac yn ddiduedd. Mae’n bosibl trafod manteision, anfanteision, a chymhlethdodau (fel sylw camarweiniol yn y cyfryngau), a dylai plant gael eu hannog i ofyn cwestiynau gan ddangos parch.
Cyfoethocaf yn aml sy’n dal i gyfrannu fwyaf at gynyddu nwyon tŷ gwydr. Gallai’r ffilm fer hon gan y BBC gyflwyno’r syniad hwn i blant cynradd hŷn a’u helpu i feithrin empathi tuag at bobl eraill.
Er mwyn helpu pobl eraill, gallai’r plant wneud y canlynol:
Edrych ar y Nodau datblygiad cynaliadwy |
Cymryd rhan yn ymgyrch Pupil Pipeline Water Aid |
Dyfeisio rhywbeth i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd |
Gofyn i lysgennad STEM am gyfiawnder yr hinsawdd |
Cymryd rhan yn If you were an engineer what would you do? |
Codi arian (gwerthu cacennau, diwrnod gwisgo i fyny) yn yr ysgol |
Cam gweithredu cadarnhaol 5 – Rhoi hwb i’r llesiant sy’n eco-gyfeillgar:
Rhowch hwb i’ch llesiant drwy fod yn greadigol neu drwy wneud yn fawr o fyd natur o dan do ac yn yr awyr agored.
Bydd y plant yn mwynhau cyfleoedd i wneud y canlynol:
Gwneud bag o hen grys T |
Cael budd o fyd natur drwy ddod â phlanhigion i mewn i’ch ystafell ddosbarth. |
Gwneud s’mores mewn ffwrn solar |
Gwneud rhywbeth o blastig bio |
Gwneud seren natur neu adeiladu ffau |
Gwneud pooter er mwyn edrych ar drychfilod bach |
Dawnsio gyda’r Superpillars |
Creu ychydig o gelf pili pala |
Mwynhau meddylgarwch drwy wneud Ioga yn y Goedwig |
Cydnabyddiaeth y delweddau: Monkey Business Images drwy Canva
This is a translation of: Are you ready to meet the 'Climate Challenge?' Part 2