Explorify logo Homepage
  • Why Explorify?
  • Teacher support
  • Log in
  • Sign up free Sign up
  • Explorify logo Homepage
  • Why Explorify?
  • Teacher support
  • Login
Science teaching support

Ydych chi’n barod i wynebu ‘Her yr Hinsawdd’? Rhan 2

Er bod llawer o bobl yn teimlo nad oes dim byd y gallan nhw ei wneud ac yn teimlo’n ansicr ynghylch sut i fynd i’r afael â’r materion byd-eang ar hyn o bryd, fel addysgwyr, mae’n rhaid i ni anelu at roi meddylfryd cadarnhaol i blant.

Children gardening

Children gardening

Share

  • Share via email

Edrychwch ar Ran 1A: Beth yw ‘Her yr Hinsawdd? yma neu Ran 1B: Her yr Hinsawdd a’r Cwricwlwm i Gymru yma

Sut i addysgu Her yr Hinsawdd

Efallai bydd plant yn credu nad yw oedolion yn poeni digon am y Ddaear y byddan nhw’n etifeddu’r cyfrifoldeb dros ofalu amdani cyn hir. Canlyniad posibl hyn yw teimladau llethol o dristwch ac o ddiffyg gobaith: weithiau cyfeirir at hyn fel Eco-orbryder eco (Eco-anxiety), ond ffordd fwy cadarnhaol o fynegi hyn yw Eco-empathi.

Ein gwaith ni erioed fel athrawon fu creu amgylchedd diogel sy’n meithrin plant a lle gallan nhw ffynnu. Nawr, mae dimensiwn ychwanegol: sicrhau bod gan blant ddiogelwch seicolegol, optimistiaeth a hyder i siarad yn onest am yr heriau sy’n ein hwynebu ni, a sut gallan nhw wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd. Er mwyn lleihau eco-orbryder, negeseuon allweddol cynghrair Climate Psychology Alliance yw ein bod ni’n gwneud y canlynol:

  1. Rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i blant (yn ôl eu hoedran) fel y gallan nhw ddechrau deall beth yw’r problemau byd-eang.
  2. Rhoi amser a lle i’r plant brosesu gwybodaeth newydd a chydnabod eu teimladau. Bydd hyn yn helpu i feithrin eu hempathi drwy ddeallusrwydd emosiynol.
  3. Rhoi cyfleoedd i blant allu gwneud rhywbeth drwy gamau gweithredu cadarnhaol bychain.

Bydd defnyddio gweithgareddau Her yr Hinsawdd yn galluogi sgyrsiau pwysig i ddigwydd fel bod plant yn gallu mynegi eu syniadau a’u teimladau. Mae gwybodaeth ddibynadwy, ddiweddar i gefnogi’r trafodaethau hyn ym mhob adran ‘gwyddoniaeth gefndir’/background science. Mae gan bob gweithgaredd Her yr Hinsawdd adran ychwanegol o’r enw Cam gweithredu cadarnhaol, sy’n tynnu sylw at syniadau syml o ran y camau gweithredu perthnasol y gall y plant eu gwneud er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r blaned. Mae darllen yr adran hon cyn y wers yn syniad da fel bod modd paratoi unrhyw adnoddau.

Mae sawl math gwahanol o Gamau gweithredu cadarnhaol:

Cam gweithredu cadarnhaol 1 – Byddwch yn naturiaethwr: 

Bydd cymryd camau bach i wella safle’r ysgol ar gyfer byd natur yn rhan o Gwricwlwm Gwyddoniaeth Lloegr yn 2023 a bydd y plant yn gallu llwytho eu data i Barc Natur Addysg Cenedlaethol rhithwir. Mae’r manteision i’r plant yn cynnwys dysgu sgiliau ymarferol a gweithio y tu allan. Gyda’i gilydd, gallai eu prosiectau fod yn arwyddocaol i fywyd gwyllt Prydain.

I fod yn naturiaethwr, gallai’r plant greu:

Pwll dŵr/ffos 

Porthwr pili palod / Porthwr adar  

Clawdd glasbrennau 

Gwesty trychfilod 

Argae afancod  (fideo i gefnogi hyn) 

Cartref i ddraenogod 

Pentwr o foncyffion 

Blodau pili palod  neu Feithrinfa Goed 

Blwch nythu 

Baddon i wenyn 

Gardd neu Gardd fwyd 

Clawdd marw 

Ardal goediog  

Pelen hadau blodau gwyllt  

Gardd blodau gwyllt  

 

 

Cydnabyddiaeth y ddelwedd: Justin Smith drwy Canva

Cam gweithredu cadarnhaol 2 – Lledaenu’r neges:

Mae materion amgylcheddol yn gallu rhoi cyd-destunau bywyd go iawn mewn gwersi Cymraeg/Saesneg lle mae plant yn dysgu cyfathrebu drwy berswadio. Mae’n bosibl datblygu sgiliau siarad a gwrando a dylai cyd-destun ‘perthnasol ac ystyrlon’ (Adroddiad Ofsted pwynt 138) ysbrydoli gwaith ysgrifennu o’r ansawdd orau. Mae angen sensitifrwydd a chydbwysedd i fynd i’r afael â chymhlethdod materion amgylcheddol. Fel yr esboniwyd mewn canllawiau diweddar gan Lywodraeth y DU, dydy’r dystiolaeth wyddonol am newid yn yr hinsawdd ddim yn wleidyddol. Fodd bynnag, wrth ystyried beth sydd angen ei wneud, dylai plant gael eu haddysgu i fod yn deg ac yn ddiduedd. Mae’n bosibl trafod manteision, anfanteision, a chymhlethdodau (fel sylw camarweiniol yn y cyfryngau), a dylai plant gael eu hannog i ofyn cwestiynau gan ddangos parch.

Cyfoethocaf yn aml sy’n dal i gyfrannu fwyaf at gynyddu nwyon tŷ gwydr. Gallai’r ffilm fer hon gan y BBC gyflwyno’r syniad hwn i blant cynradd hŷn a’u helpu i feithrin empathi tuag at bobl eraill.

Er mwyn helpu pobl eraill, gallai’r plant wneud y canlynol:

Edrych ar y Nodau datblygiad cynaliadwy  

Cymryd rhan yn ymgyrch Pupil Pipeline Water Aid 

Dyfeisio rhywbeth i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd 

Gofyn i lysgennad STEM am gyfiawnder yr hinsawdd 

Cymryd rhan yn If you were an engineer what would you do? 

Codi arian (gwerthu cacennau, diwrnod gwisgo i fyny) yn yr ysgol


Cam gweithredu cadarnhaol 5 – Rhoi hwb i’r llesiant sy’n eco-gyfeillgar:

Rhowch hwb i’ch llesiant drwy fod yn greadigol neu drwy wneud yn fawr o fyd natur o dan do ac yn yr awyr agored.

Bydd y plant yn mwynhau cyfleoedd i wneud y canlynol:

Gwneud bag o hen grys T 

Cael budd o fyd natur drwy ddod â phlanhigion i mewn i’ch ystafell ddosbarth.  

Gwneud s’mores mewn ffwrn solar 

Gwneud rhywbeth o blastig bio 

Gwneud seren natur neu adeiladu ffau 

Gwneud pooter er mwyn edrych ar drychfilod bach 

Dawnsio gyda’r Superpillars 

Creu ychydig o gelf pili pala 

Mwynhau meddylgarwch drwy wneud Ioga yn y Goedwig  

 

Cydnabyddiaeth y delweddau: Monkey Business Images drwy Canva

This is a translation of: Are you ready to meet the 'Climate Challenge?' Part 2 

Last updated 16th June 2023

Share

  • Share via email

Did you find this article useful?

More from Science teaching support

View all
Explorify for Early Career Teachers

This 32-minute session, perfect for Early Career Teachers or anyone new to Explorify, explores how the platform can support primar...

Read now
Using Explorify to consolidate learning with a focus on materials

Enhance your science teaching with the latest support from the Explorify team.

Read now

Other Teacher support:

How to use Explorify Helpful reads What's new Science leader toolkit Downloads

Join Explorify today to take your class on an exciting science adventure!

We use cookies to make Explorify even more awesome for you. Find out more.

Explorify logo

About Explorify

  • How to use Explorify
  • Our story
  • Partners
  • Why Explorify?

Teacher support

  • Downloads
  • Helpful reads
  • Science leader toolkit
  • Science teaching support

Support

  • Contact us
  • FAQ
  • Privacy and Terms of Use
  • What’s new?
bett award winner 2024

Stem Learning logo Primary Science Teaching Trust logo

Explorify Staffroom on Facebook Explorify on Twitter Explorify on Instagram Explorify on Linkedin Explorify on Tiktok

Powered by STEM Learning and the Primary Science Teaching Trust

Wellcome Trust Wellcome Trust Funded by Wellcome Grant number 223594/Z/21/Z