Explorify logo Homepage
  • Why Explorify?
  • Teacher support
  • Log in
  • Sign up free Sign up
  • Explorify logo Homepage
  • Why Explorify?
  • Teacher support
  • Login
Science teaching support

Ydych chi’n barod i wynebu ‘Her yr Hinsawdd’? Rhan 1A

Yn Explorify, penderfynon ni y byddai pob un o’r adnoddau sy’n rhoi cyfleoedd i drafod ‘Her yr Hinsawdd’ yn cael ei nodi â bathodyn arth wen, fel ei bod hi’n hawdd dod o hyd iddyn nhw i gyd. Erbyn hyn, mae’r gweithgareddau wedi’u tagio â’r pwnc Her yr Hinsawdd yn ogystal â chael eu tagio yn ôl y pwnc gwyddoniaeth y maen nhw’n cysylltu ag ef.

Hands holding up globe

Hands holding up globe

Share

  • Share via email

Beth yw ‘Her yr Hinsawdd’?

Wrth ddweud ‘Her yr Hinsawdd’, rydyn ni’n cyfeirio at dri chategori o bryder byd-eang, ac mae bathodyn arth wen o liw gwahanol gan bob un:

Cynhesu byd-eang. Cododd tymheredd cyfartalog y Ddaear o leiaf 1.1°C rhwng 1880 a 2021. Yn bennaf, mae hyn oherwydd llosgi tanwydd ffosil, sydd wedi cynyddu ein ‘blanced ynysu’ o ‘nwyon tŷ gwydr’ (e.e. carbon deuocsid, methan). Mae’r fideo hwn gan NASA kids yn esbonio sut mae ‘nwyon tŷ gwydr’ yn effeithio ar ein hinsawdd ni.

Colli bioamrywiaeth. Mae pethau byw (planhigion, anifeiliaid, microbau a ffyngau) yn rhyngweithio â’i gilydd mewn gwe gymhleth lle maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd (yn gyd-ddibynnol). Mae llai o fioamrywiaeth yn y byd yn golygu llai o rywogaethau, a niferoedd is o fewn pob rhywogaeth. Mae cyfraddau difodiant (faint o rywogaethau sy’n mynd yn ddiflanedig) yn uchel ar hyn o bryd, yn bennaf oherwydd bod bodau dynol yn dinistrio cynefinoedd ac yn gorddefnyddio adnoddau. Yn y ffilm hon, mae Syr David Attenborough yn esbonio pwysigrwydd bioamrywiaeth.

Llygredd. Mae pobl yn llygru aer, dŵr a thir ein planed pan fyddan nhw’n cyflwyno sylweddau neu ynni niweidiol i’r amgylchedd yn gyflymach nag y mae’n bosibl eu torri nhw i lawr. Gallai’r sylwedd niweidiol fod yn solid, yn hylif, neu’n nwy; gallai ynni niweidiol fod yn wres, yn sŵn neu’n olau.

Mae’r materion hyn yn gymhleth, yn cysylltu â’i gilydd, a hyn sy’n bwysig, maen nhw’n gwaethygu. Mae’r fideo hwn gan y BBC sy’n edrych ar ddifodiant yn egluro rhai o’r cydgysylltiadau.

Mynd i’r afael â ‘Her yr Hinsawdd’ – pam a sut?

Mae amcanion y cwricwlwm gwyddoniaeth cynradd sy’n benodol i’r hinsawdd, bioamrywiaeth a llygredd yn dal i esblygu ac mae sylw iddyn nhw yma. Lansiodd cymdeithas NAEE (National Association for Environmental Education) faniffesto yn 2022 i helpu i roi arweiniad i ysgolion er mwyn dod yn fwy cynaliadwy a gwella’r addysg y mae plant yn ei chael i’w paratoi nhw at wynebu heriau amgylcheddol yn y dyfodol. Mae rhai o’r pwyntiau allweddol yn cynnwys:

  • Mae’n bwysig cydweithredu ar bob lefel, er enghraifft, mae angen i athrawon gydweithio ar draws pynciau.

  • Dylai pawb fod yn cael cyfleoedd ar gyfer DPP fel bod cymuned ymroddedig yn datblygu, a honno’n cefnogi plant i ddod yn hyderus ac i fod â meddylfryd cadarnhaol.

  • Mae angen gweithredoedd sy’n cyfateb i’r geiriau, ac ar yr un pryd rhaid cydnabod yn agored bod pethau’n ansicr a bod angen cyfaddawdu.

  • Dylai adeiladau a safle’r ysgol gael eu defnyddio’n adnodd addysgu gweithredol er mwyn cefnogi dysgu am gynaliadwyedd.

  • Er bod gweithredu’n lleol yn bwysig, mae bod ag empathi byd-eang yn cyflwyno plant i gydraddoldeb a chyfiawnder yr hinsawdd.

Darllenwch Ran 2 i gael gwybod rhagor am sut gallwch chi addysgu plant am yr heriau amgylcheddol hyn a sut gallwch ymdrin â gorbryder am yr hinsawdd. 

Cydnabyddiaeth y delweddau: RapidEye drwy Canva 

This is a translation of Are you ready to meet the 'Climate Challenge'? Part 1A

Last updated 16th June 2023

Share

  • Share via email

Did you find this article useful?

More from Science teaching support

View all
Positive actions for the climate

Schools across the UK are stepping forward to teach children about important global issues. This video shows a group of Key S...

Read now
Planning Support Video: Developing Thinking, Speaking and Listening Skills

Join Explorify Engagement Leaders, Rebecca Ellis and Stacey Reid in this 30-minute video to discover new and favourite a...

Read now

Other Teacher support:

How to use Explorify Helpful reads What's new Science leader toolkit Downloads

Join Explorify today to take your class on an exciting science adventure!

We use cookies to make Explorify even more awesome for you. Find out more.

Explorify logo

About Explorify

  • How to use Explorify
  • Our story
  • Partners
  • Why Explorify?

Teacher support

  • Downloads
  • Helpful reads
  • Science leader toolkit
  • Science teaching support

Support

  • Contact us
  • FAQ
  • Privacy and Terms of Use
  • What’s new?
Wellcome Trust Wellcome Trust Funded by Wellcome

Stem Learning logo Primary Science Teaching Trust logo

Explorify Staffroom on Facebook Explorify on Twitter Explorify on Instagram Explorify on Linkedin Explorify on Tiktok

Grant number 223594/Z/21/Z

Managed by STEM Learning and the Primary Science Teaching Trust